Yn ystod hanner tymor mis Hydref, dathlodd amgueddfeydd ledled Cymru gynnig ddiwylliannol rhagorol i Gymru yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru
2016.
Gyda darllen mwy
Telerau ac amodau defnyddio
Telerau ac amodau defnyddio’r wefan
1. Rhagarweiniad
1.1 Mae’r telerau ac amodau hyn yn rheoli eich defnydd ar ein gwefan.
1.2 Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn y telerau ac amodau hyn yn llawn; yn unol â hynny, os ydych yn anghytuno â’r telerau ac amodau hyn neu ag unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.
1.5 Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis; trwy ddefnyddio ein gwefan neu gytuno â’r telerau ac amodau hyn, rydych yn cytuno i ni ddefnyddio cwcis yn unol â thelerau ein [polisi preifatrwydd a chwcis.
2. Hysbysiad hawlfraint
2.1 Hawlfraint (c) 2014 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
2.2 Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau penodol y telerau ac amodau hyn:
(a) rydym ni, ynghyd â’n trwyddedwyr, yn rheoli ac yn berchen ar yr holl hawlfreintiau a’r hawliau eiddo deallusol eraill yn ein gwefan a’r deunydd ar ein gwefan; a
(b) chedwir yr holl hawlfreintiau a’r hawliau eiddo deallusol eraill yn ein gwefan a’r deunydd ar ein gwefan.
3. Trwydded i ddefnyddio’r wefan
3.1 Gallwch:
(a) weld tudalennau oddi ar ein gwefan mewn porwr gwe;
(b) lawrlwytho tudalennau oddi ar ein gwefan ar gyfer storio mewn porwr gwe;
(c) argraffu tudalennau oddi ar ein gwefan;
(d) ffrydio ffeiliau sain a fideo oddi ar ein ein gwefan; a
(e) defnyddio gwasanaethau ein gwefan trwy gyfrwng porwr gwe,
yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y telerau ac amodau hyn.
3.2 Oni ganiateir yn benodol gan Adran 3.1 neu ddarpariaethau eraill y telerau ac amodau hyn, rhaid i chi beidio â lawlwytho unrhyw ddeunydd oddi ar ein gwefan na chadw unrhyw ddeunydd o’r fath ar eich cyfrifiadur.
3.3 Gallwch ddefnyddio ein gwefan ar gyfer eich dibenion personol a busnes eich hun yn unig, a rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan ar gyfer unrhyw ddibenion eraill.
3.4 Oni chaniateir yn benodol gan y telerau ac amodau hyn, rhaid i chi beidio â golygu neu addasu unrhyw ddeunydd fel arall ar ein gwefan.
3.5 Oni bai eich bod yn rheoli neu’n berchen ar yr hawliau perthnasol yn y deunydd, rhaid i chi beidio ag:
(a) ailgyhoeddi deunydd oddi ar ein gwefan (gan gynnwys ailgyhoeddi ar wefan arall);
(b) gwerthu, rhentu neu is-drwyddedu deunydd oddi ar ein gwefan;
(c) dangos unrhyw ddeunydd oddi ar ein gwefan yn gyhoeddus;
(d) atgynhyrchu, dyblygu, copïo neu ecsbloetio deunydd fel arall oddi ar ein gwefan er diben masnachol; nac
(e) ailddosbarthu deunydd oddi ar ein gwefan.
3.7 Rydym yn mynnu’r hawl i gyfyngu mynediad at rannau o’n gwefan neu, yn wir at ein gwefan i gyd, yn ôl ein doethineb; rhaid i chi beidio ag osgoi neu fynd heibio, na cheisio osgoi neu fynd heibio i unrhyw fesurau cyfyngu ar ein gwefan.
4. Defnydd derbyniol
4.1 Rhaid i chi beidio â:
(a) defnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd neu gymryd unrhyw gam sy’n achosi, neu a allai achosi, difrod i’r wefan neu amharu ar berfformiad, argaeledd neu hygyrchedd y wefan;
(b) defnyddio ein gwefan mewn unrhyw fodd sy’n anghyfreithiol, anghyfreithlon, twyllodrus neu niweidiol, nac mewn cysylltiad ag unrhyw ddiben neu weithgaredd anghyfreithiol, anghyfreithlon, twyllodrus neu niweidiol;
(c) defnyddio ein gwefan i gopïo, storio, cynnal, trosglwyddo, anfon, defnyddio, cyhoeddi neu ddosbarthu unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys (neu sy’n gysylltiedig ag) unrhyw firws cyfrifiadurol, ysbïwedd, firws ceffyl pren Troea, mwydyn, cofnodwr trawiadau bysellau, gwreiddwedd neu feddalwedd cyfrifiadurol maleisus arall;
(d) cynnal unrhyw weithgareddau casglu data awtomatig neu systemataidd (yn cynnwys crafu data, cloddio data, echdynnu data a chynaeafu data) o ran neu yng nghyswllt ein gwefan heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol;
(e) cael mynediad at neu ryngweithio mewn unrhyw ffordd arall â’n gwefan gan ddefnyddio unrhyw robot, corryn neu ddull awtomatig arall;
(f) torri’r cyfeirebau a ddisgrifir yn y ffeil robots.txt ar gyfer ein gwefan; neu
(g) defnyddio data a gasglwyd o’n gwefan ar gyfer unrhyw weithgaredd marchnata uniongyrchol (yn cynnwys marchnata drwy e-bost, neges testun, telefarchnata neu bostio uniongyrchol).
4.2 Rhaid i chi beidio â defnyddio data a gasglwyd o’n gwefan i gysylltu ag unigolion, cwmnïau na phersonau a sefydliadau eraill.
4.3 Rhaid i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth rydych yn ei darparu i ni drwy ein gwefan, neu yng nghyswllt ein gwefan, yn wir, cywir, cyfredol, cyflawn ac nad yw’n camarwain.
8. Eich cynnwys: trwydded
8.1 Yn y telerau ac amodau hyn, mae "eich cynnwys" yn golygu’r holl waith a deunyddiau (yn cynnwys heb gyfyngiad, testun, graffeg, delweddau, deunydd sain, deunydd fideo, deunydd clywedol, sgriptiau, meddalwedd a ffeiliau) y byddwch yn eu cyflwyno i ni neu ein gwefan i’w storio neu gyhoeddi ar y wefan, neu i’w prosesu neu ddarlledu trwy ein gwefan.
8.2 Rydych yn rhoi trwydded fyd-eang, derfynol, nad yw’n anghynghwysol, di-freindal i ddefnyddio, atgynhyrchu, storio, addasu, cyhoeddi, cyfieithu a dosbarthu eich cynnwys mewn unrhyw gyfrwng sydd eisoes yn bodoli neu yn y dyfodol / atgynhyrchu, storio a chyhoeddi eich cynnwys ar y wefan hon ac mewn perthynas â’r wefan hon ac unrhyw wefan a fydd yn ei holynu / atgynhyrchu, storio, a gyda’ch caniatâd penodol chi, gyhoeddi eich cynnwys ar y wefan hon ac mewn perthynas â’r wefan hon.
8.3 Rydych yn rhoi’r hawl i ni is-drwyddedu’r hawliau a drwyddedwyd o dan Adran 8.2.
8.4 Rydych yn rhoi’r hawl i ni ddwyn achos am dresmasu ar yr hawliau a drwyddedwyd o dan Adran 8.2.
8.5 Trwy hyn rydych yn ildio pob hawl moesol ar eich cynnwys i’r graddau eithaf a ganiateir o dan y ddeddf gymwys; ac rydych yn gwarantu ac yn honni fod yr holl hawliau moesol eraill ar eich cynnwys wedi’u hildio i’r graddau eithaf a ganiateir o dan y ddeddf gymwys.
8.6 Gallwch olygu eich cynnwys i’r graddau a ganiateir trwy ddefnyddio’r swyddogaethau golygyddol ar ein gwefan.
10. Gwarantau cyfyngedig
10.1 Nid ydym yn gwarantu nac yn honni:
(a) cyflawnder na chywirdeb y wybodaeth a gyhoeddir ar ein gwefan;
(b) bod y deunydd ar ein gwefan yn gyfredol; neu
(c) bod y wefan neu unrhyw wasanaeth ar y wefan yn parhau i fod ar gael.
10.2 Rydym yn mynnu’r hawl i addasu neu roi’r gorau i unrhyw un neu’r cyfan o wasanaethau ein gwefan, ac i roi’r gorau i gyhoeddi ein gwefan, ar unrhyw adeg yn unol â’n disgresiwn heb unrhyw rybudd nac esboniad; ac eithrio i’r graddau y darperir ar eu cyfer fel arall yn y telerau ac amodau hyn. Ni fydd gennych yr hawl i unrhyw iawndal nac unrhyw daliad arall os yw unrhyw wasanaethau’r wefan yn cael eu haddasu neu’n dod i ben, neu os ydym ni’n rhoi’r gorau i gyhoeddi’r wefan.
10.3 I’r graddau eithaf a ganiateir gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac yn ddarostyngedig i Adran 11.1, rydym yn eithrio’r holl warantau a honiadau yn gysylltiedig â chynnwys y telerau ac amodau hyn, ein gwefan a defnyddio ein gwefan.
11. Cyfyngiadau ac atal atebolrwydd
11.1 Ni fydd unrhyw beth yn y telerau ac amodau hyn yn:
(a) cyfyngu neu’n atal unrhyw atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i esgeulustod;
(b) cyfyngu neu atal unrhyw atebolrwydd am dwyll neu ddatganiadau twyllodrus;
(c) cyfyngu ar unrhyw atebolrwydd mewn unrhyw fodd na chaniateir gan ddeddfwriaeth berthnasol; neu
(d) wahardd unrhyw atebolrwyddau na ellir eu gwahardd dan ddeddfwriaeth berthnasol.
11.2 Mae’r cyfyngiadau a’r gwaharddiadau atebolrwydd a nodir yn Adran 11 ac mewn rhannau eraill telerau ac amodau hyn:
(a) yn ddarostyngedig i Adran 11.1; ac
(b) yn rheoli’r holl atebolrwydd sy’n deillio o’r telerau ac amodau hyn neu’n berthynol i gynnwys y telerau ac amodau hyn, yn cynnwys atebolrwyddau sy’n deillio mewn contract, y gyfraith gamweddau (yn cynnwys esgeulustod) ac am dorri dyletswydd statudol.
11.3 I’r graddau y darperir ein gwefan a’r wybodaeth a’r gwasanaethau ar ein gwefan am ddim, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw natur.
11.4 Ni fyddwn yn gyfrifol i chi o ran unrhyw golledion yn deillio o unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.
11.5 Ni fyddwn yn gyfrifol i chi o ran unrhyw golledion busnes, yn cynnwys (heb gyfyngiadau) golli neu niweidio elw, incwm, refeniw, defnydd, cynhyrchu, arbedion arfaethedig, busnes, contractau, cyfleoedd masnachol nac ewyllys da.
11.6 Ni fyddwn yn gyfrifol i chi yng nghyswllt unrhyw golled neu lygru data, cronfeydd data neu feddalwedd.
11.7 Ni fyddwn yn gyfrifol i chi o ran unrhyw golled neu ddifrod arbennig, anuniongyrchol neu ganlyniadol.
11.8 Rydych chi’n derbyn fod gennym fuddiant yn cyfyngu ar atebolrwydd personol ein swyddogion a chyflogeion ac, wrth ystyried y buddiant hwnnw, rydych yn cydnabod ein bod yn endid atebolrwydd cyfyngedig; rydych yn cytuno na fyddwch yn cyflwyno unrhyw hawliad yn bersonol yn erbyn ein swyddogion neu’n cyflogeion o ran unrhyw golledion rydych yn eu dioddef mewn cysylltiad â’r wefan neu’r telerau ac amodau hyn (wrth gwrs, ni fydd hyn yn cyfyngu ar nac yn atal atebolrwydd yr endid atebolrwydd cyfyngedig ei hun am weithredoedd neu anweithiau ein swyddogion a’n cyflogeion).
12. Torri’r telerau ac amodau hyn
12.1 Heb ragfarn i’n hawliau eraill dan y telerau ac amodau hyn, os ydych yn torri’r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw fodd, neu os oes gennym amheuon rhesymol eich bod chi wedi torri’r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw fodd, fe allem:
(a) anfon rhybudd ffurfiol, neu fwy nag un rhybudd ffurfiol, atoch;
(b) atal eich mynediad i’n gwefan ni dros dro;
(c) eich gwahardd rhag cael mynediad i’n gwefan yn barhaol;
(d) atal cyfrifiaduron sy’n defnyddio eich cyfeiriad IP chi rhag cael mynediad i’n gwefan;
(e) cysylltu ag unrhyw un neu eich holl ddarparwyr gwasanaeth rhyngrwyd a gofyn iddynt atal eich mynediad i’n gwefan;
(f) dechrau camau cyfreithiol yn eich erbyn, boed hynny ar sail tor-contract neu fel arall; a/neu
(g) atal neu ddileu eich cyfrif ar ein gwefan.
12.2 Os byddwn yn atal neu’n gwahardd mynediad i’n gwefan neu ran o’n gwefan ni ddylech weithredu i osgoi neu fynd y tu arall i reolau atal neu waharddiad o’r fath (yn cynnwys heb gyfyngiad greu a/neu ddefnyddio cyfrif gwahanol).
13. Diwygiadau
13.1 Gallem ddiwygio’r telerau ac amodau hyn o dro i dro.
13.2 [Bydd y telerau ac amodau diwygiedig yn berthnasol i ddefnyddio ein gwefan o ddyddiad cyhoeddi’r telerau ac amodau diwygiedig, a thrwy hyn rydych yn hepgor unrhyw hawl sydd gennych fel arall i gael eich hysbysu am, neu i gydsynio i, ddiwygio’r telerau ac amodau hyn. / Byddwn yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi o unrhyw newid i’r telerau ac amodau hyn, a bydd y telerau ac amodau diwygiedig hyn yn gymwys i’r defnydd o’n gwefan o’r dyddiad y byddwn yn rhoi rhybudd o’r fath i chi; os na fyddwch yn cytuno â’r telerau ac amodau diwygiedig, rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan.]
13.3 [Os ydych wedi cytuno’n benodol â’r telerau ac amodau hyn, byddwn yn gofyn i chi gytuno’n benodol i unrhyw newid i’r telerau ac amodau hyn; ac os na fyddwch yn cytuno’n benodol i’r telerau ac amodau diwygiedig o fewn y cyfnod a bennir gennym, byddwn yn analluogi neu’n dileu eich cyfrif ar y wefan, a rhaid i chi roi’r gorau i ddefnyddio’r wefan.]
14. Aseinio
14.1 Trwy hyn rydych yn cytuno y gallwn aseinio, trosglwyddo, is-gontractio neu ymdrin mewn modd arall â’n hawliau a/neu ein hymrwymiadau dan y telerau ac amodau hyn.
14.2 Ni chewch, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llawn gennym ni, aseinio, trosglwyddo, is-gontractio neu ymdrin mewn modd arall ag unrhyw rai o’ch hawliau a/neu eich hymrwymiadau chi dan y telerau ac amodau hyn.
15. Toradwyedd
15.1 Os yw llys neu awdurdod cymwys arall yn penderfynu bod unrhyw ddarpariaeth yn y telerau ac amodau hyn yn anghyfreithlon a/neu na ellir ei orfodi, bydd y darpariaethau eraill yn parhau’n weithredol.
15.2 Petai unrhyw ddarpariaeth anghyfreithlon a/neu na ellir ei orfodi yn y telerau ac amodau hyn yn gyfreithlon neu y gellid ei orfodi petai rhan yn cael ei dileu, tybir bod y rhan honno wedi’i dileu, a bydd gweddill y ddarpariaeth yn parhau’n weithredol.
16. Hawliau trydydd parti
16.1 Mae’r telerau ac amodau hyn er ein budd ni a’ch budd chithau, ac ni fwriadwyd i’r telerau ac amodau hyn fod o fudd i drydydd parti na chael eu gorfodi gan unrhyw drydydd parti.
16.2 Nid yw gweithredu hawliau’r partïon dan y telerau ac amodau hyn yn ddarostyngiedig i ganiatâd unrhyw drydydd parti.
17. Y cytundeb cyfan
17.1 Yn ddarostyngedig i Adran 11.1, bydd y telerau ac amodau hyn, ynghyd â’n polisi preifatrwydd a chwcis, yn cynrychioli’r cytundeb cyfan rhyngom ni a chi yng nghyswllt defnyddio ein gwefan a bydd yn goresgyn pob cytundeb blaenorol rhyngom ni a chithau yng nghyswllt defnyddio ein gwefan.
18. Y gyfraith ac awdurdodaeth
18.1 Rheolir a llunir y telerau ac amodau hyn yn unol â [chyfraith Loegr].
18.2 Bydd unrhyw anghydfod ynghylch y telerau ac amodau hyn yn ddarostyngiedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr.
20. Ein manylion
20.1 Mae’r wefan hon yn cael ei gweithredu ac mae’n eiddo i Dîm Datblygu Cynulleidfa, Cymru Gyfan – Llyfrgelloedd, Archifau ac Amgueddfeydd.
9.2 Rydym wedi’n cofrestru yng Nghymru a Lloegr dan rif cofrestru [rhif], ac mae ein swyddfa gofrestredig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Ffordd y Castell, Coedpoeth, Wrecsam LL11 3NA
9.3 Ein prif le busnes yw’r cyfeiriad uchod.
9.4 Gallwch gysylltu â ni trwy ysgrifennu at y cyfeiriad busnes uchod, trwy ddefnyddio ein ffurflen gysylltu ar y wefan, neu drwy ein ffonio ar 01978 722988.