Chwilio Digwyddiadau wrth Rhanbarth

Gŵyl Amgueddfeydd Cymru
Er gwaethaf cyfyngiadau COVID, mae amgueddfeydd Cymru yn barod i’ch helpu chi i fwynhau #HannerTymorHanesyddol, gydag ystod o ddigwyddiadau arbennig mewn amgueddfeydd sydd ar agor a chyfoeth o ddigwyddiadau ac adnoddau ar-lein i ddiddanu pob oedran. Cewch wibdaith hanesyddol i amseroedd anghyffredin eraill yn hanes dynoliaeth, cyfle i fwynhau ein hamgueddfeydd a’n casgliadau yn eich cartref, ac na phoener am halibalŵ Calan Gaeaf – mae wedi sortio!
Digwyddiadau Nesaf
Ein Newyddion Diweddaraf

AMGUEDDFEYDD CYMRU YN RHANNU HANES, DIWYLLIANT A GWYDDONIAETH AR-LEIN I GEFNOGI TYMOR HANNER DAN GLO
Dros hanner tymor mis Hydref, bydd ein hamgueddfeydd yn gwneud eu gorau glas i gynnig ystod o weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau cyffrous, ffrwydrol ac atyniadol sydd wedi’u cynllunio i guro diflastod y gyfnod cloi Covid yng Nghymru. Wrth i bob amgueddfa ledled y Genedl gau eu drysau yn unol a’r gwaharddiadau yng Ngymru, mae eu timau’n brysur rannu gweithgareddau, gweithdai a digwyddiadau wedi’u cynllunio ar gyfer hanner tymor fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru, ar-lein.
Wrth siarad am yr Ŵyl, dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, yr Arglwydd Elis-Thomas, “Rwy’n falch o’r gwytnwch, yr ymrwymiad a’r brwdfrydedd y mae ein hamgueddfeydd yn eu dangos wrth iddynt weithio i sicrhau y gall eu casgliadau a’u gwybodaeth gael eu rhannu er bod eu drysau ar gau yn ystod yr amser heriol hwn. Bydd yr hanner tymor hwn dan waharddiadau yn arbennig o anodd i deuluoedd ac yn unig i lawer. Fel y gwelsom trwy gydol y pandemig hwn, mae diwylliant yn hanfodol wrth gynnal lles, felly rwy’n falch iawn bod ein hamgueddfeydd yn gwneud eu gorau i ddarparu adnoddau a gweithgareddau ar-lein i ddifyrru ac addysgu yn ystod wythnos Gŵyl Amgueddfeydd Cymru.”