Am Gaeaf Llawn Lles

[et_pb_section fb_built=”1″ _builder_version=”4.14.7″ _module_preset=”default” global_colors_info=”{}”][et_pb_row _builder_version=”4.14.7″ _module_preset=”default” global_colors_info=”{}”][et_pb_column type=”4_4″ _builder_version=”4.14.7″ _module_preset=”default” global_colors_info=”{}”][et_pb_post_title meta=”off” featured_image=”off” _builder_version=”4.14.7″ _module_preset=”default” hover_enabled=”0″ global_colors_info=”{}” sticky_enabled=”0″][/et_pb_post_title][et_pb_text _builder_version=”4.14.7″ _module_preset=”default” global_colors_info=”{}” inline_fonts=”ThrowMyHandsUpInTheAir”]

Nod y fenter Gaeaf llawn Lles yw cefnogi llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol pob plentyn a person ifanc. Gyda buddsoddiad ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru, mae’r pecyn cymorth hwn yn cael ei ddarparu drwy amrywiaeth o fentrau rhyngweithiol, creadigol a chwarae cymunedol sy’n addas ar gyfer ystod eang o oedrannau.

Mae’n bleser gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru ac amgueddfeydd ledled Cymru fod yn bartneriaid yn yr ymgyrch ac i weithio ochr yn ochr ag Amgueddfa Cymru ar eu Gŵyl Gaeaf Llanw Lles.

Bydd menter Gaeaf Llawn Lles yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chorfforol y tu allan i ddysgu ffurfiol. Hefyd, gyda gweithgareddau am ddim ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar draws Cymru gyfan, mae rhywbeth addas i bawb.

Dyma rai o’r Prosiectau Gaeaf Llawn Lles sydd yn cael eu hwyluso gan ein hamgueddfeydd gwych ledled Cymru:

Amgueddfeydd Sir Fynwy – Technoleg y Dyfodol: Ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf

Mae BywydMynwy yn creu Strategaeth Dreftadaeth ar gyfer ei amgueddfeydd, atyniadau a safleoedd cefn gwlad hanesyddol. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys ymgynghori â gwahanol gynulleidfaoedd. Bydd ein prosiect Gaeaf Llawn Lles yn gofyn i bobl ifanc ddatblygu fframwaith ar y ffordd orau o ymgynghori â chynulleidfaoedd 16-25 oed, gan gynnwys y ffyrdd mwyaf effeithiol o ddefnyddio technoleg ddigidol a chyfryngau cymdeithasol.

Oriel Mon — MynediAbl

Mae’r prosiect yn gweithio gyda 12 o bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i sicrhau bod y dehongliad yn berthnasol iddynt hwy a’r rhai mewn amgylchiadau tebyg. Bydd ymgynghorwyr, artistiaid a gwneuthurwyr ffilm yn cael eu cyflogi a bydd yr allbynnau yn ffilmiau YouTube byr ac yn ddehongliad ar y safle gydag i pads.

Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig

Prosiect yn seiliedig ar Cyfuno yn gweithio gyda GISTA, elusen sy’n darparu cefnogaeth i bobl ifanc bregis. Hefyd prosiect yn gweithio gyda’r Coleg Paratoi Milwrol ym Mangor

Porthaethwy – Fideos i Bobl Ifanc Byddar

Cynhyrchu fideos dehongli ar gyfer y byddar

Llety’r Barnwyr – Digido Clasuron Oes Fictoria

Ffilmio tri chlasur Fictoraidd yng nghyd-destun ystafelloedd y cyfnod gan ddefnyddio cwmni theatr ‘Don’t Go into the Cellar’, a’r cyfan wedi’i gyflwyno ar-lein.

Y Gaer – Brawdlys Y Gaer

Artistiaid gweledol a seicolegydd yn gweithio gyda phobl ifanc o ddau goleg lleol, gan archwilio ystyr a chyfreithlondeb yn y llys Fictoraidd. Pwy sy’n gyfrifol ac yn euog am newid hinsawdd?

Llandudno – Hunanofal mewn Oes Ddigidol

Gweithio gyda phobl ifanc mewn cyd-destun amgueddfa i ddatblygu rhaglenni sydd wedi’u hanelu at ddisgyblion ysgol uwchradd ar sut i reoli eu cynnwys digidol a’u cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd ddiogel ac iach

Storiel – Cipio Llysgenhadon Ifanc Llechi

Prosiect yn gweithio gyda’r Llysgenhadon Ifanc sy’n gysylltiedig â Safle Treftadaeth y Byd gogledd Cymru. Cynigir hyfforddiant ffotograffig a datblygir arddangosfa i fynd ar daith o amgylch cymunedau llechi’r ardal.

Storiel – Goleuo’r Dyfodol

Ar y cyd â’r Ganolfan Confucius ar gyfer Astudiaethau Tsieineaidd a’r elusen ddigartrefedd pobl ifanc GISDA, i redeg cyfres o brosiectau gwneud llusernau papur ar draws y sir. Bydd yn cynnwys 50 o bobl ifanc mewn 12 gweithdy, gan adeiladu tuag at orymdaith a digwyddiad yn Storiel.

Amgueddfa Lloyd George – Lloyd George mewn Cymeriad

Prosiect ysgrifennu sgriptiau gan bobl ifanc, gyda chymorth awdur lleol adnabyddus a chyflwyniad dwy sioe un person yn theatr Lloyd George yn yr amgueddfa, wedi’u perfformio gan actor lleol ifanc

Storiel – Prosiect Dylunio Myfyrwyr

Cynnwys myfyrwyr o gwrs Celf Sylfaen Bangor i ddylunio cynnyrch llechi cerfiedig i ddathlu Safle Treftadaeth y Byd, gan ddefnyddio’r casgliadau yn yr amgueddfa


[/et_pb_text][/et_pb_column][/et_pb_row][/et_pb_section]