Amdanom

Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ddigwyddiad blynyddol a gyflwynir gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, sef y corff strategol ar gyfer gweithwyr proffesiynol amgueddfeydd ac orielau celf yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n cynrychioli dros 100 o amgueddfeydd unigryw achrededig Cymru, o’r rhai bach iawn i’n hamgueddfeydd cenedlaethol gwych. Gyda’i gilydd, mae’r casgliadau amhrisiadwy hyn yn adrodd stori Cymru, ac yn adnodd gwerthfawr ar gyfer archwilio a dysgu am ein hunaniaeth leol a chenedlaethol, a sut rydym wedi byw yma yng Nghymru ers gwawrddydd dynoliaeth. 

Mae ymweliadau ag amgueddfeydd yng Nghymru yn cyfrannu £ 78.3 miliwn i’n heconomi bob blwyddyn. Yn ogystal, maent yn cyfrannu’n gadarnhaol at gyflogaeth a datblygiad gyrfaoedd ac mae ystadegau’n dangos bod ymweld ag amgueddfeydd yn cynyddu ein synnwyr o les yn sylweddol hefyd.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau Gŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, a pharhau i fwynhau ein hamgueddfeydd a’n horielau trwy gydol y flwyddyn.