Mae amgueddfeydd ledled Cymru yn brysur paratoi llawn crochan o ysbrydoliaeth ar gyfer #hannertymorhanesyddol, wrth i amgueddfeydd ledled y wlad baratoi ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru. Eleni bydd cymysgedd o ddigwyddiadau byw gwych mewn amgueddfeydd ar hyd a lled y Genedl, yn ogystal â gweithgareddau ar-lein i’w mwynhau. Fel bob amser, bydd gwledd o weithgareddau i’r hen a’r ifanc, a bydd y mwyafrif AM DDIM.
Ariennir Gŵyl Amgueddfeydd Cymru gan Lywodraeth Cymru. Mae’n ddigwyddiad blynyddol a gyflwynir gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, sef y corff eirioli ar gyfer amgueddfeydd ac orielau a’r rhai sy’n gweithio yn y sector hwn yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n cynrychioli dros 100 o amgueddfeydd Cymreig Achrededig unigryw, o rai annibynnol bach i amgueddfeydd cenedlaethol. Gyda’i gilydd, mae’r casgliadau amhrisiadwy hyn yn adrodd stori Cymru, ac yn adnodd gwerthfawr ar gyfer dysgu, archwilio a gwybodaeth am ein hunaniaeth leol a chenedlaethol, a sut rydym wedi byw yma yng Nghymru ers gwawrio amser.
Wrth siarad am yr Ŵyl, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: “Mae ein Amgueddfeydd yn ein dysgu am ein hanes, yn darparu cyd-destun ar gyfer ein presennol ac yn bwysig maent yn fuddsoddiad yn ein cenedligrwydd, ein lles a’n dyfodol. Rydyn ni’n teimlo’n angerddol y dylai eu casgliadau fod yn hygyrch i bawb – ac yn falch, felly i gefnogi Gŵyl Amgueddfeydd Cymru a’r amgueddfeydd sy’n cymryd rhan ar hyd a lled Cymru i gynnig digwyddiadau gwych i bob oed, nifer am ddim, yn ystod hanner tymor mis Hydref. “
Wrth lansio’r rhaglen ar gyfer Gŵyl eleni, dywedodd Nêst Thomas, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru: “Mae hi wedi bod yn flwyddyn a hanner heriol i bawb. Mae ein hamgueddfeydd wedi addasu ac arloesi a pharhau i wasanaethu eu cymunedau ar-lein, ac rydym yn falch iawn ohonynt am hynny. Ond does dim byd gwell na chroesawu ymwelwyr a’n cymunedau yn ôl i’n hadeiladau mewn ffordd ddiogel ac ystyriol. Rydyn ni’n falch iawn o gyflwyno Gŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni sy’n gwneud Hanner Tymor Hydref yn wirioneddol hanesyddol i’r hen a’r ifanc! Dewch draw i ymchwilio’n ddyfnach i’n casgliadau, i fwynhau halibalw hanesyddol, i ddysgu, I grefftio, i ddarganfod, i deithio amser a mwynhau. Bydd mwyafrif ein digwyddiadau AM DDIM, gan eu gwneud yn hygyrch i bawb. ”
Eleni, mae’r ŵyl yn ymchwilio i hanes hynod ddiddorol meddygaeth, o bla hynafol i feddyginiaethau gwerin, triniaethau a iachâd ein cyndeidiau i ddyfeisiau mwy diweddar. Bydd hefyd yn archwilio lles ac yn chwilio am ddoethineb o anodau hanes a’r casgliadau amgueddfeydd niferus a rhyfeddol ledled y wlad.
Yn ystod y pandemig hwn, mae ein cartrefi wedi dod yn lleoedd diogel ac yn warchodfeydd, ac efallai eu bod hefyd wedi teimlo fel carchardai ar brydiau. Byddwn yn taflu goleuni ar gartrefi a gerddi trwy gydol hanes a sut mae ein perthynas â’r lleoedd hyn wedi newid dros y canrifoedd. O, ac mae’r crochan yn byrlymu rhywfaint o hud Calan Gaeaf hefyd. Gwyliwch y gofod hwn!
O, ac a wnaethom ni sôn am ddreigiau? Edrychwch allan oherwydd ‘Mae Yma Ddreigiau’! Mae cnwd o ddreigiau bach wedi deor ac yn rhedeg o gwmpas a chuddio mewn nifer o’n hamgueddfeydd ac mae angen llygaid ifanc miniog I’n helpu i’w darganfod. Trwy gydol Gŵyl Amgueddfeydd Cymru, bydd yr amgueddfeydd sydd wedi eu heffeithio yn erfyn ar ymwelwyr i’w rowndio a’u dychwelyd i’r gwyllt fel y gallant dyfu’n fawr ac yn nerthol fel y ddraig ar faner Cymru.
Hyn i gyd a digwyddiadau gwyddoniaeth gwych, sgyrsiau diddorol gan guraduron amgueddfeydd, cyrsiau cain, diwrnodau allan hanesyddol a digon o ddigwyddiadau Calan Gaeaf arswydus. Ar y cyfan, mae’n edrych fel #HannerTymorHanesyddol yma yng Nghymru!
Mae’r wibdaith amser yn dechrau ar 23 Hydref ac yn gorffen gyda arswyd a bwci-bos ar 31 Hydref. Mae manylion llawn y rhaglen bellach ar gael ar wefan yr Ŵyl www.amgueddfeydd.cymru