Ydych chi’n mynd i fod yn cymryd rhan yn ein Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru newydd? Wrth i ni fynd ati i roi sylw i wahanol amgueddfeydd, rydym wedi cael ein hysbrydoli gan weithgareddau’r Hydref ynghylch â Mis Hanes Pobl Dduon ac am gynnig enghreifftiau i chi lle gallwch archwilio ein hanes a’n diwylliant amrywiol.
- Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gallwch ymweld ag arddangosfa Ail-Fframio Picton (ar agor tan Ionawr 2025). Mae’n rhoi darlun mwy cynhwysfawr o’r Is-gadfridog Syr Thomas Picton (1758-1815) a aned yn Hwlffordd a’i hanes fel Llywodraethwr Trinidad ar droad y 19eg ganrif.
Mae hyn yn cynnwys ei driniaeth greulon o bobl Trinidad, gan gynnwys artaith Luisa Calderon, 14 oed – gwybodaeth nad oedd yn rhan o ddehongliad blaenorol yr amgueddfa, a welodd ei bortread yn hongian mewn lle amlwg yn yr amgueddfa am fwy na chanrif.
2. Amgueddfa Caerdydd
Wedi rhyw dro o 10 munud o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd cewch ymweld â Amgueddfa Caerdydd, lle gallwch ddysgu am stori’r ddinas gan y bobl sydd wedi’i llunio.
Un eitem hynod ddiddorol ac amrywiol sydd i’w gweld yn Amgueddfa Caerdydd yw pot coffi o Ethiopia. Symudodd Hibo o Djibouti i Gaerdydd yn 1991, a phan ddaeth ei mam i ymweld â hi, daeth â’r pot coffi o Ethiopia yn anrheg iddi. “Er mai o Djibouti mae fy nheulu’n dod, roedd fy mam wastad yn mwynhau mynd ar ei gwyliau i Ethiopia ac yfed coffi yno. Roeddwn yn hapus iawn pan ffendiais i bod modd cael coffi o Ethiopia yma yng Nghaerdydd!”
Ar 1 Tachwedd gallwch hefyd alw heibio i wrando ar Mymuna Soleman o Butetown a Cath Little o Lanrhymni rannu rhai o straeon Caerdydd. Darganfyddwch sut a pham y daeth eu teuluoedd i fyw i Gaerdydd. Bydd y ddwy yn rhannu rhai o’u hoff straeon, caneuon a rhigymau traddodiadol.
3. Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
Yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, maen nhw wedi arddangos sengl wreiddiol o ymddangosiad Paul Robeson trwy gebl ffôn trawsatlantig yn Negfed Eisteddfod Flynyddol y Glowyr, ar 5 Hydref 1957, ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl.
Canwr Americanaidd, actor, ac actifydd hawliau sifil oedd Paul Robeson. Bu’n cefnogi Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) a Glowyr De Cymru am ddegawdau. Ffurfiodd berthynas agos iawn gyda glowyr y Rhondda, mewn cyfarfod hap a damwain ym 1929 wrth i Robeson wneud ei ffordd adref ar ôl perfformiad o Show Boat. Cafodd ei daro gan eu canu ar ôl iddyn nhw gerdded i Lundain mewn protest am gael eu gwahardd gan eu cyflogwyr. Ymunodd Robeson â’r orymdaith a chanu ei gan enwog, Ol’ Man River.
Rhwng 1 a 3 Tachwedd 2023, gallwch alw i mewn i’r sesiynau crefft ‘coffáu diwylliant’ a gwneud eich plac glas eich hun, yn union fel un Paul Robeson (i’w gweld fan hyn).
.
4. Amgueddfa’r Fenni
Pan fyddwch yn y Fenni, ewch i amgueddfa’r dref, sy’n cynnwys ‘Y Gegin Gymreig’ – cegin ffermdy o’r oes Fictoria. Fel rhan o’r arddangosfa barhaol hon, gallwch ddysgu am sut y cafodd yr eitemau yma o bob cwr o’r byd i fod yn y gegin hon. Gallwch edrych yn agosach ar y straeon caethwasiaeth ryngwladol, y camdrin a’r dioddefaint dynol y tu ôl i eitemau cyffredin fel siwgr a the.
5. Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Mae arddangosfa Cymru Balchder yn Sain Ffagan ar agor tan ddiwedd y flwyddyn. Bob haf, cynhelir gorymdeithiau a digwyddiadau Pride ledled Cymru i ddathlu cydraddoldeb a gwelededd LHDTC+. Dechreuodd Pride yn wreiddiol fel protest – datganiad o wrthwynebiad – ac mae ymgyrchwyr wedi bod yn brwydro dros hawliau LHDTC+ yng Nghymru ers dros hanner canrif. Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys gwrthrychau o ddigwyddiadau Pride o bob cwr o Gymru, baneri protest a bathodynnau ymgyrch LHDTC+.
6. Amgueddfa Cwm Cynon
Ers mis Ebrill 2023, mae gan Amgueddfa Cwm Cynon Blac Porffor er cof am Rose Davies (1882 – 1958), a oedd yn ffigwr cyhoeddus amlwg yn ei hoes, ond wedi’i anghofio i raddau helaeth erbyn hyn. Cafodd Rose Davies yrfa hir a disglair mewn gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth gyhoeddus, yn gweithio i wella addysg, gwasanaethau mamolaeth a rheoli genedigaethau; yn gyntaf, yn Aberdâr, ac yn ddiweddarach yng Nghymru gyfan. Hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn gadeirydd Cyngor yr Undebau Aberdâr yn 1918 a’r cyntaf fel cynghorydd yng Nghyngor Sir Morgannwg yn 1925. Ceir adroddiadau niferus am ei llwyddiannau ym mhapurau newydd y dydd, gan gynnwys Pennsylvania, yn yr Unol Daleithiau.
7. Canolfan Ddiwylliant Conwy
Trwy gydol y flwyddyn gallwch archwilio straeon, casgliadau ac erthyglau am gymuned Ddu Conwy yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy. Ar hyn o bryd, mae ganddyn nhw arddangosfa gelf am y paffiwr, hyfforddwr pêl-droed a garddwr Joseph Taylor. Nid yw’r amgueddfa hon yn rhan o’r her pasbort, ond mae’n werth ei chynnwys, gan fod Tŷ Congo Bae Colwyn/Sefydliad Affricanaidd yn un o brif straeon hanes Pobl Dduon Gogledd Cymru. Bu’r Parchedig William Hughes yn pregethu yn y Congo o 1882 nes i iechyd gwael ei orfodi i ddychwelyd i Gymru ym 1885. Daeth â dau fyfyriwr gydag ef: Kinkasa a Nkansa – Bechgyn y Congo. Bu ef a’i gymdeithion newydd ar daith o amgylch capeli Cymru, gan roi darlithoedd mewn ieithoedd gwahanol, codi arian a gwerthu lluniau. Ewch i’r amgueddfa i ddysgu mwy am yr hyn a ddigwyddodd i Kinkasa, Nkansa, a’r Parch. Hughes ei hun mewn arddangosfa newydd bon yn y Gwanwyn.