Amgueddfeydd

Mae Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru yn cynrychioli dros 100 o amgueddfeydd Cymreig achrededig unigryw, o’r rhai bach iawn i’n hamgueddfeydd cenedlaethol gwych. Gyda’i gilydd, mae’r casgliadau amhrisiadwy hyn yn adrodd stori Cymru, ac yn adnodd gwerthfawr ar gyfer dysgu, archwilio a gwybodaeth am ein hunaniaeth leol a chenedlaethol, a sut rydym wedi byw yma yng Nghymru ers cyn cof. Defnyddiwch y chwiliad isod i ddod o hyd i amgueddfeydd a digwyddiadau yn eich ardal chi.