Wrth i Gymru wella o’r pandemig, mae’n bryd adennill lles!

Mae amgueddfeydd ledled Cymru yn cynnig digwyddiadau a gweithgareddau Gaeaf Llawn Lles gwych i blant a phobl ifanc dros hanner tymor ac yn ystod wythnos olaf mis Chwefror, fel rhan o Ŵyl Gaeaf Llawn Lles. Chwiliwch am weithgareddau AM DDIM mewn amgueddfa yn eich ardal chi yn ein hadran DIGWYDDIADAU isod .

Yn ogystal â’r digwyddiadau gwych hyn, mae ein hamgueddfeydd hefyd wedi bod yn datblygu nifer o brosiectau a mentrau tymor hwy, llawer ohonynt eisoes ar waith, sy’n canolbwyntio ar les a datblygiad pobl ifanc yn eu cymunedau. Gallwch ddod o hyd i ragor am y fenter Gaeaf Llawn Lles ac am y prosiectau yma yn adran AMDADOM ar y wefan.

Gweithgareddau Newydd 2023

Gweithgareddau Newydd 2023

Mae Gŵyl 2023 bron yma ac mae nifer o weithgareddau newydd gwych yn aros amdanoch eleni. Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru Dyma her newydd sbon fydd yn eich annog i ymweld â llawer o amgueddfeydd gwych Cymru, gan achub ar y cyfle i ennill gwobr arbennig ar yr un pryd!...

Dim ond 10 diwrnod i fynd…

Dim ond 10 diwrnod sydd nes bod Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn dychwelyd gydag wythnos o ddigwyddiadau arbennig i ddathlu hanes a diwylliant amrywiol ein gwlad dros hanner tymor yr hydref (Sadwrn 28 Hydref - Sul 5 Tachwedd). Dechreuodd yr Ŵyl - a drefnir gan Ffederasiwn...

AMGUEDDFEYDD CYMRU YN RHANNU HANES, DIWYLLIANT A GWYDDONIAETH AR-LEIN I GEFNOGI TYMOR HANNER DAN GLO

AMGUEDDFEYDD CYMRU YN RHANNU HANES, DIWYLLIANT A GWYDDONIAETH AR-LEIN I GEFNOGI TYMOR HANNER DAN GLO

Dros hanner tymor mis Hydref, bydd ein hamgueddfeydd yn gwneud eu gorau glas i gynnig ystod o weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau cyffrous, ffrwydrol ac atyniadol sydd wedi’u cynllunio i guro diflastod y gyfnod cloi Covid yng Nghymru. Wrth i bob amgueddfa ledled y Genedl gau eu drysau yn unol a’r gwaharddiadau yng Ngymru, mae eu timau’n brysur rannu gweithgareddau, gweithdai a digwyddiadau wedi’u cynllunio ar gyfer hanner tymor fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru, ar-lein.

Wrth siarad am yr Ŵyl, dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, yr Arglwydd Elis-Thomas, “Rwy’n falch o’r gwytnwch, yr ymrwymiad a’r brwdfrydedd y mae ein hamgueddfeydd yn eu dangos wrth iddynt weithio i sicrhau y gall eu casgliadau a’u gwybodaeth gael eu rhannu er bod eu drysau ar gau yn ystod yr amser heriol hwn. Bydd yr hanner tymor hwn dan waharddiadau yn arbennig o anodd i deuluoedd ac yn unig i lawer. Fel y gwelsom trwy gydol y pandemig hwn, mae diwylliant yn hanfodol wrth gynnal lles, felly rwy’n falch iawn bod ein hamgueddfeydd yn gwneud eu gorau i ddarparu adnoddau a gweithgareddau ar-lein i ddifyrru ac addysgu yn ystod wythnos Gŵyl Amgueddfeydd Cymru.”

GŴYL AMGUEDDFEYDD CYMRU 2020

GŴYL AMGUEDDFEYDD CYMRU 2020

Er gwaethaf cloeon COVID a’r cyfyngiadau Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn paratoi i helpu chi fwynhau #HannerTymorHanesyddol mis Hydref yma, gydag ystod o ddigwyddiadau diogel COVID arbennig mewn amgueddfeydd agored, a chyfoeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac...