Mae Gŵyl 2023 bron yma ac mae nifer o weithgareddau newydd gwych yn aros amdanoch eleni.

Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru

Dyma her newydd sbon fydd yn eich annog i ymweld â llawer o amgueddfeydd gwych Cymru, gan achub ar y cyfle i ennill gwobr arbennig ar yr un pryd!

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw casglu pasbort o un o’r amgueddfeydd sy’n rhan o’r her (gweler y tabl isod), ac ymweld â chwe amgueddfa erbyn canol mis Ebrill nesaf. Ar ôl cwblhau’r her byddwch â chyfle i ennill Clustffonau Diwifr Beats Studio 3 a thocynnau diwrnod i’r teulu i un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (National Trust).

Mwynhewch a phob lwc!

Llyfryn Gweithgareddau Calan Gaeaf

Mae’r Ŵyl eleni wedi cydweithio â’r awdur plant a chyn Fardd Plant Cymru, Casia Wiliam, i ddatblygu llyfryn gweithgareddau Calan Gaeaf newydd sbon ar gyfer ein hamgueddfeydd (gweler y tabl isod).

Yn addas ar gyfer plant sydd yn yr ysgol gynradd, mae’n llawn ffeithiau am Galan Gaeaf y Celtaidd; straeon a hanesion am hen draddodiadau Calan Gaeaf y Cymry; a gwybodaeth hefyd am sut mae pobl eraill yn dathlu’r adeg hon o’r flwyddyn ledled y byd. Mae gemau, posau a helfa ysbrydion hefyd!

Pa Amgueddfeydd sy’n Cymryd Rhan?

Yn y tablau isod hwn gallwch weld pa amgueddfeydd sy’n rhan o’r ŵyl, ac ym mha rai y gallwn wneud yr her basbort, ac ym mha rai o’r llyfryn gweithgareddau Calan Gaeaf ar gael. Os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth mae croeso i chi gysylltu gyda ni i holi ar info@museums.wales.

Mwynhewch, a chofiwch rannu eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol a’n tagio ni @welshmuseums #LlwybrauHanesCymru

CasiaWiliam
Author: CasiaWiliam