Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ôl! Cynhelir yr ŵyl rhwng dydd Sadwrn 28 Hydref a dydd Sul 5 Tachwedd eleni, gan gwmpasu wythnos hanner tymor.
Bydd rhywbeth at ddant pawb yn ystod yr ŵyl, gyda digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal mewn amgueddfeydd bach a mawr ledled y wlad. Beth am i chi ymweld â sawl un gan greu llwybr hanesyddol eich hun?
Yn ogystal â digwyddiadau am ddim, bydd pecyn adnoddau newydd sbon ar gael i ddiddori’r plant ar sail y Calan Gaeaf! Felly beth am ddod am dro i’ch amgueddfa leol gyda’r plant yn eu gwisgoedd Calan Gaeaf? Bydd digon i’w diddanu gan gynnwys gemau, posau, heriau a ffeithiau difyr am draddodiadau Calan Gaeaf yma yng Nghymru a ledled y byd.
I fod ymysg y cyntaf i gael gwybod am ddigwyddiadau’r ŵyl, , a chofiwch ein dilyn ar y Facebook, X (Twitter) ac Instagram.
Caiff yr ŵyl ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n ddigwyddiad blynyddol sy’n cael ei drefnu gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, sef y corff eirioli ar gyfer amgueddfeydd ac orielau a’r rhai sy’n gweithio yn y sector hwn yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n cynrychioli dros 100 o amgueddfeydd Cymreig Achrededig unigryw, o rai bach, annibynnol i amgueddfeydd cenedlaethol. Gyda’i gilydd, mae’r casgliadau amhrisiadwy hyn yn adrodd stori Cymru, ac yn adnodd gwerthfawr ar gyfer dysgu, archwilio a darganfod gwybodaeth am ein hunaniaeth leol a chenedlaethol, a sut rydym wedi byw yma yng Nghymru ers dechreuad amser.
#LlwybrauHanesCymru #LlwybrauDiwylliantCymru