Dim ond 10 diwrnod sydd nes bod Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn dychwelyd gydag wythnos o ddigwyddiadau arbennig i ddathlu hanes a diwylliant amrywiol ein gwlad dros hanner tymor yr hydref (Sadwrn 28 Hydref – Sul 5 Tachwedd). Dechreuodd yr Ŵyl – a drefnir gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru – nôl yn 2014 er mwyn rhoi sylw i amgueddfeydd ac orielau ledled Cymru ac i gynyddu cyhoeddusrwydd a denu ymwelwyr.

Mae dros 40 o amgueddfeydd bach a mawr yn cymryd rhan yn yr Ŵyl ledled Cymru eleni, gan gynnig nifer o weithgareddau amrywiol a chyffrous (a’r mwyafrif am ddim) ar gyfer teuluoedd ͏– o ‘barti hinsawdd’ yn Rhaeadr, i weithdy creu swynion yng Ngheredigion, a sesiwn stori, cerdd a chân yng Nghaerdydd.

Bydd Llyfryn Gweithgareddau Calan Gaeaf newydd sbon ar gael i ymwelwyr ifanc ym mwyafrif yr amgueddfeydd eleni, gan roi cyfle iddynt ddysgu am hanes Calan Gaeaf yng Nghymru ac ar draws y byd gyda gemau a phosau. Yn ogystal bydd yr Ŵyl yn cyflwyno Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru, ble bydd gofyn i ymwelwyr ymweld â chwe amgueddfa amrywiol – o’u dewis nhw – rhwng nawr ac Ebrill 2024. Ar ôl ymweld â chwe safle, bydd eu henwau yn mynd i mewn i’r het a byddant â chyfle i ennill gwobr arbennig sef dau docyn teulu diwrnod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phâr o glustffonau Bluetooth diwifr.

Meddai Rachael Rogers o Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru: “Mae’r Ŵyl yn gyfle gwych i arddangos y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud gan ein hamgueddfeydd ledled y wlad. Mae ein hamgueddfeydd nid yn unig yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddysgu am ein treftadaeth Gymraeg, ond hefyd yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg, ac yn cynnig digwyddiadau rhad ac am ddim mewn lleoliadau cynnes a chroesawgar, sy’n bwysicach nac erioed.

“Fel pob man, effeithiwyd amgueddfeydd gan y pandemig, ond mae’r ymwelwyr yn dychwelyd yn gyson flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydym yn gobeithio y bydd yr Ŵyl eleni yn rhoi hwb ychwanegol i’n hamgueddfeydd, er mwyn i ni weld nifer uchel o ymwelwyr yn dychwelyd. Felly os ydych chi wedi dechrau meddwl beth i’w wneud yn ystod yr hanner tymor, peidiwch â meddwl rhagor – ewch draw i’n gwefan i weld beth sy’ ‘mlaen!”

CasiaWiliam
Author: CasiaWiliam