Chwilio Digwyddiadau wrth Rhanbarth

Gŵyl Amgueddfeydd Cymru
Bant a ni eto!
Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn dychwelyd yr Hydref hwn, gydag wythnos gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig i bob oed mewn amgueddfeydd ledled Cymru, llawer ohonynt AM DDIM. Mae’r Ŵyl eleni yn rhedeg o ddydd Sadwrn 28 Hydref tan ddydd Sul 5 Tachwedd, ac mae ein hamgueddfeydd yn barod i gynnig #hannertymorhanesyddol i deuluoedd o Gymru ac ymwelwyr o’r tu hwnt i’n ffin yn ystod eu gwyliau hanner tymor, a digon o halibalŵ Calan Gaeaf hefyd! Bydd gemau, posau, gweithgareddau a llawer mwy; digon i ddiddanu’r rhai bach gan roi cyfle i’r rhai mawr fwynhau cynnwys arbennig yr amgueddfeydd! Yn ogystal bydd ystod o ddigwyddiadau gan gynnwys sgyrsiau, darlithoedd, crefftau, teithiau tu ôl i’r llenni, a sesiynau cadwraeth i swyno a synnu helwyr hanes o bob oed. Cadwch lygad ar dudalen ‘Ein Digwyddiadau’ o ddechrau mis Hydref i ddod o hyd i weithgaredd yn eich amgueddfa leol a thu hwnt. Welwn ni chi yno!
Digwyddiadau Nesaf
Ein Newyddion Diweddaraf

Rydym yn paratoi am #hannertymorhanesyddol arall yma yng Nghymru
Rydyn ni'n bragu llawn crochan o ysbrydoliaeth yn barod ar gyfer #hannertymorhanesyddol yma yng Nghymru unwaith eto wrth i amgueddfeydd ar draws y tir baratoi ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru. Eleni bydd cymysgedd o ddigwyddiadau byw gwych mewn amgueddfeydd ym mhob cwr o'r wlad, yn ogystal â gweithgareddau ar-lein i'w mwynhau. Ac fel sy'n arferol, bydd gweithgaredd i'r hen a'r ifanc i'w mwynhau, a bydd y mwyafrif am ddim. Eleni mae ein gŵyl yn ymchwilio i hanes hynod ddiddorol meddygaeth, o bla hynafol i feddyginiaethau gwerin, triniaethau a iachâd ein cyndeidiau hyd at ddyfeisiau mwy diweddar. Byddwn hefyd yn archwilio lles ac yn chwilio am ddoethineb o lwch hanes a'n casgliadau gwych, yn ogystal â sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi lles ein cymunedau a'n hymwelwyr trwy eich cadw'n...