Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru
Dyma ein Her newydd!
I’w chychwyn o hanner tymor yr Hydref 2023 hyd nes 14 Ebrill 2024.
Dyma ffordd wych o ymweld â nifer o amgueddfeydd gwych Cymru – ac yn gyfle i ennill gwobr arbennig!
Gallwch gasglu pasbort o unrhyw un o’r amgueddfeydd isod, sy’n rhan o’r her.


Amgueddfeydd yn Cymryd Rhan
Sut mae cymryd rhan?
Wyt ti wedi derbyn dy basbort? Gwych!
Yr hyn sydd angen i ti ei wneud nawr yw ymweld â chwech o amgueddfeydd Cymru. Gall y rhain fod yn rhai lleol, neu unrhyw le ar draws Cymru (ar y rhestr uchod, wrth gwrs).
Ym mhob amgueddfa, gwna’n siwr dy fod ti’n dangos dy basbort i aelod o staff neu wirfoddolwr er mwyn iddynt gofnodi dy ymweliad yn swyddogol.
Wedi i ti gwblhau’r her, bydd angen i ti lenwi ffurflen gyda’r manylion er mwyn bod â chyfle i ennill gwobr arbennig. Mae gen ti hyd at flwyddyn i wneud y chwe ymweliad.
Wyt ti wedi cwblhau’r Her?
Gwych! A llongyfarchiadau!
Clicia yma i lenwi’r ffurflen Her Pasbort gyda manylion dy chwe ymweliad a manylion cyswllt (rhaid gofyn caniatâd oedolyn yn gyntaf).
Wedi i ti wneud hyn, bydd dy enw yn mynd i mewn i’r het â chyfle i ennill gwobr arbennig. Byddwn yn cysylltu gyda’r enillydd maes o law.
Pob lwc!
Telerau ac Amodau’r Gystadleuaeth:1. Mae’r gystadleuaeth yn dechrau ar ddydd Sadwrn 28 Ebrill 2023 ac yn gorffen ar ddydd Sul 14 Ebrill 2024. Cynhelir y raffl ar ddydd Llun 15 Ebrill 2024. 2. Ni roddir arian parod cyfwerth â’r wobr. 3. Nid yw pobl sy’n gweithio’n uniongyrchol ar Ŵyl Amgueddfeydd Cymru, aelodau o’u teulu agos, a / neu bobl sy’n byw yn yr un cartref yn gymwys i gymryd rhan. 4. Un tro i bob person.