Rydym yn paratoi am #hannertymorhanesyddol arall yma yng Nghymru

23 Medi 2021 |
Crochan llawn hud hanesyddol

Rydyn ni’n bragu llawn crochan o ysbrydoliaeth yn barod ar gyfer #hannertymorhanesyddol yma yng Nghymru unwaith eto wrth i amgueddfeydd ar draws y tir baratoi ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru. Eleni bydd cymysgedd o ddigwyddiadau byw gwych mewn amgueddfeydd ym mhob cwr o’r wlad, yn ogystal â gweithgareddau ar-lein i’w mwynhau. Ac fel sy’n arferol, bydd gweithgaredd i’r hen a’r ifanc i’w mwynhau, a bydd y mwyafrif am ddim.

Eleni mae ein gŵyl yn ymchwilio i hanes hynod ddiddorol meddygaeth, o bla hynafol i feddyginiaethau gwerin, triniaethau a iachâd ein cyndeidiau hyd at ddyfeisiau mwy diweddar. Byddwn hefyd yn archwilio lles ac yn chwilio am ddoethineb o lwch hanes a’n casgliadau gwych, yn ogystal â sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi lles ein cymunedau a’n hymwelwyr trwy eich cadw’n ddiogel o ran Covid a darparu maeth i’r meddwl, y corff a’r enaid.

Yn ystod y pandemig hwn, mae ein cartrefi wedi dod yn lleoedd diogel ac yn warchodfeydd, ac efallai eu bod hefyd wedi teimlo fel carchardai ar brydiau. Byddwn yn taflu goleuni ar gartrefi a gerddi trwy gydol hanes a sut mae ein perthynas â’r lleoedd hyn wedi newid dros y canrifoedd.

O, ac mae’r crochan yn byrlymu a hud Calan Gaeaf hefyd. Gwyliwch y gofod hwn!

Mae’r wibdaith hanesyddol yn cychwyn ar 23 Hydref ac yn gorffen gyda digonedd o arswyd ar 31 Hydref. Cadwch lygad yn ôl yma am fanylion llawn gweithgareddau Gŵyl Amgueddfeydd Cymru 2021.